Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(1)(g) a (2) o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

YR UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

Rheoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diddymu Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”) ac maent wedi eu gwneud o dan adran 22 o’r Ddeddf. Mae adran 22 o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiddymu, drwy reoliadau, y Ddeddf neu unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Ymgymerwyd ag asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Ddeddf. Roedd yr asesiad effaith rheoleiddiol hwnnw yn cynnwys asesiad o’r opsiwn i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella Bil yr UE (Ymadael) i adlewyrchu’r setliad datganoli yn well. Gan fod y Rheoliadau hyn yn adlewyrchu’r opsiwn hwnnw, ceir gwybodaeth am effaith y Rheoliadau hyn yn yr asesiad effaith rheoleiddiol hwnnw. Mae’r asesiad effaith rheoleiddiol ar gael ar: http://www.assembly.wales/laid%20documents/pri-ld11449-em/pri-ld11449-em-w.pdf.

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(1)(g) a (2) o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

YR UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

Rheoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                            3 Hydref 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 22 o Ddeddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018([1]) (“y Ddeddf”).

Yn unol â pharagraff 1(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â datganiad sy’n nodi barn Gweinidogion Cymru ynghylch a ddylai’r weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) o baragraff 1 o Atodlen 2 fod yn gymwys i’r offeryn hwn.

Yn unol â pharagraff 1(3) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, gosodwyd datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n esbonio pam y mae angen darpariaeth i addasu deddfwriaeth sylfaenol.

Yn unol â pharagraff 1(6) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i—

(a)     unrhyw sylwadau,

(b)     unrhyw benderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac

(c)     unrhyw argymhellion gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft,

a wneir yn ystod y cyfnod o 60 o ddiwrnodau o ran y rheoliadau drafft([2]).

Yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi gosod datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)     sy’n datgan a gyflwynwyd unrhyw sylwadau, a

(b)     sydd, os cyflwynwyd unrhyw sylwadau, yn rhoi manylion y sylwadau hynny.

Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, cymeradwywyd drafft o’r rheoliadau drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Hydref 2018.

Diddymu Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018

2. Mae Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 wedi ei diddymu.

 

 

 

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2018 dccc 3.

([2])           Mae paragraff 1(16) yn darparu mai’r cyfnod o “60 o ddiwrnodau” mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft yw’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y rheoliadau drafft eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae paragraff 1(17) yn darparu nad oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.